Bydd llawer o Lwythi Anwahanadwy Anghyffredin (Abnormal Indivisible Load) yn eich ardal fel rhan o brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri o ddydd Llun 18 Tachwedd 2024 ymlaen.
Fel y gwyddoch o’n hymgysylltiad parhaus, nod prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri yw trawsnewid y dirwedd drwy gael gwared â’r 10 peilon a’r 3km o linell uwchben presennol sy’n croesi Aber Afon Dwyryd rhwng Minffordd a Llandecwyn. Yn lle’r llinell uwchben, bydd ceblau trydan yn cael eu claddu mewn twnnel o dan y ddaear.
Defnyddir Peiriant Tyllu Twnnel i gloddio’r twnnel. Ar ôl gosod y cydrannau at ei gilydd, bydd y Peiriant Tyllu Twnnel yn mesur 166 metr o hyd ac yn pwyso 436 tunnell. Bydd y cydrannau yn cael eu cludo o’r Almaen i’n compownd adeiladu yn Garth ger Minffordd.
Y llwybr cludo
Bydd y Peiriant Twnelu yn cael ei gludo o’r Almaen i’r DU ar y môr i ddociau Immingham, yng ngogledd ddwyrain Swydd Lincoln, ac yna’n cael ei gludo i Wasanaethau Caer ar yr M56 cyn cyrraedd gogledd Cymru. Yng Nghymru, bydd y llwythi mawr sy’n cludo cydrannau’r Peiriant Twnelu yn teithio ar hyn cefnffyrdd yr A55, yr A487 a’r A497 a ffyrdd lleol.
Bydd y llwythi mawr yn cael eu cludo ar ôl-gerbydau arbenigol gyda Heddlu Gogledd Cymru a cherbydau preifat yn eu hebrwng i reoli traffig a diogelwch.
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA), Llywodraeth Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, yr awdurdodau lleol perthnasol a’n contractwr cludo arbenigol, Fracht Group UK, i gynllunio’r llwybr a’r amseroedd yn ofalus er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar bobl a thraffig lleol lle bynnag y bo modd.
Beth i'w ddisgwyl
O ddydd Llun 18 Tachwedd, am gyfnod o hyd at dair wythnos, bydd cyfanswm o 27 o lwythi’n cael eu cludo, gyda rhwng un a phedwar llwyth bob dydd.
O’r rhain, bydd 21 yn Llwythi Anwahanadwy Anghyffredin gydag wyth llwyth sy’n gofyn am gael eu hebrwng yn llawn gan yr heddlu a 13 o lwythi sy’n gofyn am gael eu hebrwng yn rhannol gan yr heddlu. Bydd peilot ffordd yn hebrwng pob un o’r llwythi hyn mewn confoi.
Bydd y chwe llwyth arall ar gerbydau nwyddau trwm (HGV) arferol felly ni fydd angen iddynt gael eu hebrwng gan yr heddlu.
Bydd yr holl lwythi’n cael eu trefnu yn ystod yr wythnos, yn ystod oriau golau dydd ac ar adegau i osgoi tagfeydd yn ystod y cyfnodau prysuraf o draffig lle bo hynny’n bosibl. Mae’r llwythi wedi’u trefnu ar y dyddiadau canlynol:
Bydd y cerbydau yn cychwyn o Wasanaethau Caer a disgwylir i'r amser teithio gymryd tua chwe awr i gyd. Bydd y llwythi’n symud ar gyflymder o hyd at 40mya ar gyfer rhan gyntaf y llwybr drwy ffordd ddeuol yr A55 ac yna rhwng 20mya a 30mya ar gyfer gweddill y llwybr ar hyd yr A487. Bydd adegau pan fydd y llwythi'n mynd yn arafach na hynny, megis pan fyddant yn teithio drwy ran gulaf y llwybr ym Mhenmorfa, lle byddant yn arafu i gyflymder cerdded.
Bydd y Llwythi Anwahanadwy Anghyffredin yn teithio ar hyd ffordd osgoi Porthmadog yr A487, heibio chwarel Breedon i gylchfan Minffordd. Yna bydd yn troi i’r dde ar hyd yr A497, cyn pasio’r fynedfa i’r lôn gefn i Finffordd yn Britannia Terrace yna bacio am yn ôl i lawr i safle Garth.
Pan fydd y tryciau cludo mawr wedi dadlwytho cydrannau’r Peiriant Tyllu Twnnel ar safle prosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri, bydd maint y tryciau’n cael eu haddasu a byddant yn teithio ymaith fel HGVs safonol.
Bydd y Peiriant Tyllu Twnnel wedyn yn cael ei baratoi i'w lansio yn gynnar yn 2025. Bydd yn cyrraedd pen ei daith yn Llandecwyn ganol 2026. Yn dilyn cystadleuaeth ymysg ysgolion lleol, penderfynwyd enwi’r Peiriant Tyllu Twnnel yn Buddug - sef cynnig Scarlett o Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog.
Gwaith ar gylchfan Minffordd
Er mwyn caniatáu i’r llwythi mawr droi i’r dde’n ddiogel wrth gylchfan Minffordd, bydd angen i ni dynnu arwyddion stryd o amgylch cylchfan Minffordd dros dro, ond dim ond tra bo’r llwythi’n pasio heibio'r fan honno. Er mwyn galluogi hynny i ddigwydd cyn y cyfnod danfon ym mis Tachwedd-Rhagfyr 2024, mae angen i ni gyfnewid yr arwyddion parhaol am arwyddion dros dro y gellir eu tynnu’n hawdd ar y diwedd.
Bydd y gwaith i wneud yr addasiadau hyn yn dechrau ar 4 Tachwedd 2024 a bydd yn para hyd at bum niwrnod. Bydd yr holl waith ar gylchfan Minffordd yn cael ei wneud yn ystod yr wythnos rhwng 9:30am a 4:30pm. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan
Cysylltu â ni
Mae National Grid, a’n prif gontractwr, Hochtief UK, yn dymuno sicrhau bod busnesau, trigolion a holl ddefnyddwyr y ffyrdd yn ymwybodol o’r danfoniadau arfaethedig hyn a’r mesurau rheoli traffig, er mwyn galluogi i deithiau gael eu cynllunio’n unol â hynny. Rydym wedi ysgrifennu at fusnesau a thrigolion lleol yn ddiweddar i roi rhybudd ymlaen llaw am y llwythi hyn fydd yn cael eu cludo.
Rydym yn gweithio i sicrhau bod hyn yn tarfu cyn lleied â phosibl a hoffem ymddiheuro am unrhyw anhwylustod y gallai hyn ei achosi.
Mae rhagor o wybodaeth am brosiect Darpariaeth Effaith Weledol Eryri ar gael yn nationalgrid.com/eryrivip
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach, cysylltwch â’n tîm cysylltiadau cymunedol drwy anfon e-bost atom yn visualimpact@nationalgrid.com neu ffonio 0800 019 1898 (a gadael neges os gofynnir).
Steve Ellison
Uwch Reolwr y Prosiect
© 2024 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd