Yn gynharach eleni, cwblhawyd gwelliannau i faes parcio Dinas Dinlle yn cynnwys ail-wynebu, addasu’r fynedfa, marcio mannau parcio, tirweddu ac uwchraddio cyfleusterau.
Yn ystod cyfnod 16 Awst – 30 o Fedi trefnwyd cyfnod arbrawf drwy godi ffioedd parcio isod rhwng oriau 0900 – 1700 yn ddyddiol :
Hyd at 1 awr : Am ddim
Hyd at 2 awr : £2.00
Hyd at 3 awr : £3.00
Hyd at 8 awr : £6.00
Tocyn Tymor : £25.00
Cynhaliwyd yr arolwg hwn er mwyn casglu adborth defnyddwyr y maes parcio, trigolion a busnesau lleol ar y cyfnod arbrawf. Bydd y canlyniadau yn cael eu hystyried wrth lunio trefniadau rheoli’r maes parcio i’r dyfodol.
Cafodd yr arolwg ei hysbysebu mewn erthyglau yn y wasg, cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, ar wefan Cyngor.
Mae’r arolwg wedi ei ddadansoddi a’r adroddiad wedi ei ysgrifennu gan y Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth, Cyngor Gwynedd.
Darllenwch yr adroddiad llawn drwy'r linc isod.
© 2025 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd