logo

Cyngor Cymuned Llandwrog

yn gwasanaethu pentrefi Y Fron, Carmel, Y Groeslon, Llandwrog a Dinas Dinlle
Rheolwr Gweinyddol a Chyllid y Cyngor - David Roberts
Bryn Meurig, Carmel, Caernarfon, Gwynedd LL54 7DS
Ffôn: (01286) 881920/ 07796024288
gwybodaeth@cyngorcymunedllandwrog.cymru
Facebook
Twitter

Arolwg Anghenion Tai, Y Groeslon


Y Broses Ymgynghori

Mae posibilrwydd y bydd y Adra yn derbyn y cyfle i ddatblygu tai fforddiadwy ar gyfer pobl leol yn Y Groeslon , ac felly maent wedi gofyn i wasanaeth yr Hwyluswyr Tai Gwledig i adnabod yr angen am dai yn yr ardal drwy gynnal arolwg anghenion tai. Pwrpas yr arolwg yw gweithio’n agos gyda'r gymuned i ddarganfod beth yw’r angen am dai yn yr ardal hon, os oes angen, a pha fath o dai sydd eu hangen ar bobl leol Y Groeslon.

Mae Hwyluswyr Tai Gwledig yn gweithredu gydag ac ar ran cymunedau a phartneriaid sy’n datblygu tai i ymateb i brinder tai fforddiadwy mewn nifer o ardaloedd gwledig ar draws Gogledd Orllewin Cymru. Mae yna wyth partner sy’n cefnogi’r gwaith yng Ngogledd Orllewin Cymru, a hynny o fewn siroedd Gwynedd, Môn a Chonwy.

Adnabod anghenion tai lleol er mwyn sicrhau cyflenwad o dai fforddiadwy i bobl leol mewn ardaloedd gwledig yw sylfaen y gwaith. Ymgymerir â’r gwaith mewn partneriaeth â’r gymuned leol, partneriaid y cynllun, a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys tirfeddianwyr. Gwneir hyn drwy archwilio data a thrwy ddefnyddio amrywiol dechnegau ymgynghori gan gynnwys holiaduron a phrynhawniau agored.

Ar adegau, nid adeiladu tai o’r newydd fydd yr opsiwn gorau ar gyfer cymuned. O dan yr amgylchiadau hynny, gall y tîm ddefnyddio eu harbenigedd i adnabod cyfleoedd arloesol a gweithio gyda’r gymuned, a phartneriaid priodol, i adnabod pa opsiynau sy’n diwallu ei anghenion orau a chyfeirio’r gymuned at fudiadau sydd yn gallu helpu.

Bydd yr Hwyluswyr Tai Gwledig yn anfon llythyr at bawb sy’n byw o fewn yr ardal cyngor cymuned, Meddygfeydd ac
Ysgolion yn eu gwahodd i gwblhau arolwg ar-lein. Ynddo, bydd cyfle i unigolion nodi os ydynt:

  • Angen tŷ fforddiadwy neu eisiau symud gan nad yw eu tŷ presennol yn diwallu eu hanghenion;
  • Yn ystyried rhentu neu brynu, ac;
  • Yn cefnogi neu yn erbyn datblygiad tai fforddiadwy posibl. Bydd yr holiadur yn rhoi cyfle i unigolion/preswylwyr nodi eu barn am unrhyw ddatblygiad posib.

Mae cynnig i unrhyw un nad oes ganddynt fynediad at y we ffonio’r Hwyluswyr Tai Gwledig i gwblhau’r arolwg dros y ffôn. Sesiwn galw i mewn anffurfiol yw’r prynhawn agored sy’n agored i’r cyhoedd. Bydd yr Hwyluswyr Tai Gwledig, Tai Teg, a’r datblygwyr yn bresennol yn y prynhawn agored. Mae’r prynhawn agored yn rhoi cyfle i breswylwyr weld cynlluniau posib a dysgu am opsiynau tai cymdeithasol a thai fforddiadwy. Bydd y preswylwyr sy’n mynychu’r prynhawn agored yn cael cyfle i gwblhau ffurflen adborth yn nodi eu sefyllfa dai a’u barn am ddatblygiad posib.

Defnyddir sianelau cyfryngau cymdeithasol megis Weplyfr ,Twitter ac Instagram er mwyn hyrwyddo’r arolwg ar-lein a’r prynhawn agored. Mae’r Hwyluswyr hefyd yn gofyn i aelodau’r cyngor cymuned ac aelodau o’r cyhoedd i hyrwyddo’r arolwg ar-lein a’r prynhawn agored ar eu cyfryngau cymdeithasol.

I ddarllen mwy, cliciwch y ddolen yma (PDF)

Newyddion

© 2025 Cyngor Cymuned Llandwrog | Gwefan gan Delwedd

Datganiad Preifatrwydd